yn Gymraeg

 

Mis Mawrth diwethaf, cynnalwyd Eisteddfod y Dysgwyr (Ceredigion, Powys, Sir Gâr) yn Llandeilo ac ysgrifennais i’r darn hwn; roedd y gystadleuaeth ‘Y Tlws Rhyddiaith’, lefel agored; ‘Darganfod’ oedd y testun a ro’n i’n wrth fy modd pan des i drydedd. Felly – dyma’r darn!

*

Cenedl heb iaith yw cenedl heb galon” …pan o’n i’n ifancach do’n i ddim yn deall ei ystyr. Ces i fy magu yn bell o berfeddwlad Gymreig, yn y De diwydiannol. Saesneg oedd iaith y maes, iaith y bwrdd, iaith yr aelwyd. Yn wir, Saesneg oedd iaith fy mhlentyndod. Beth oedd Cymraeg? Doedd dim syniad gyda fi; ni chlywid e yn ein tŷ erioed. Wedyn fel gwraig a mam, roedd fy mywyd yn brysur dros ben. Ro’n i’n gweithio a gofalu am fy mhlant a roedd fy niwrnodau yn llawn o amserlenni a chalendrau, gwaith cartef a cherddoriaeth, chwaraeon a chyngherddau. Cymraeg? Ble roedd yr amser?

Yn ddiweddarach daeth ymddeoliad. Ar ȏl i ni orffen gweithio, symudodd fy ngŵr a fi o Gaerdydd i Sir Frycheiniog. Ynghyd âg ardal newydd a thŷ newydd daeth sylweddoliad i fi: do’n i ddim yn nabod fy ngwlad fy hunan! Ac am y tro cyntaf ro’n i’n gallu gweld  fy mod i’n anwybodus am hanes Cymru, ei diwylliant ac ei hetifeddiaeth; a chrëwyd dristwch enfawr ym mêr fy esgyrn. Felly penderfynais i…byddwn i’n dysgu’r iaith a byddwn i’n darganfod Cymru!

Chwiliais i am ddosbarth a chyn bo hir ro’n i wedi cofrestru ar gwrs yn Aberhonddu: Sylfaen Dwys, achos ro’n i ar frys! Roedd Cymru wedi aros amdana i’n ddigon hir. Ar wib, ro’n i wedi ymgymryd â mordaith o ddarganfyddiad! Gyda fy ngŵr, teithiais i ledled y tir, yn cerdded o gwmpas bro a bryn. Crwydron ni drwy gestyll adfeiliedig a hen eglwysi, yn chwilio am safleoedd hynafol a’u chwedlau. Daethon ni o hyd i bentrefi tawel a thraethau ansathredig. Agorwyd byd newydd!

Dan dȏ wrth gwrs, roedd e’n llyfrau…cwrddais i â brenhinoedd a thywysogion, rhyfelwyr ac arwyr. Ro’n i’n teimlo’r ergydion creulon gan y Sais, Normaniaid a’u disgynyddion; yr arswyd Cidweli a Chilmeri, ac anobaith y gorchfygiad olaf gan Edward y Cyntaf. Dysgais i am gyfeddiant Cymru gan Loegr a gormes ei phobl; am y Chwyldro Diwydiannol ac ymelwad y cymoedd, triniaeth fradwrus Tryweryn, a thorcalon Senghenydd, Aberfan a lleill.

Cymaint o drasiedi! Ond ar yr un pryd llawenheais i am y beirdd a’r cerddorion, yr Eisteddfod gyntaf a’r byd o lenyddiaeth a chelf oedd yn blodeuo yng nghanrifoedd wedi hen fynd, ac am oroesiad y Gymraeg drwy ddŵr a thân; am ysbryd y Cymry. A gwell hwyr na hwyrach, ro’ n i wedi darganfod fy ngwlad!

Felly beth nesaf? Hoffwn i brofi mwy. Mae eisiau arna fi ddarllen cerddi Dafydd ap Gwilym a Hedd Wyn; hoffwn i ddeall caneuon gwerin, ac eistedd mewn theatr dywyll yn gwrando ar ddramâu Saunders Lewis. A bydda i, yn bendant. Tair blynydd yn ȏl do’n i ddim yn gallu siarad Cymraeg o gwbl, ond bob yn dipyn dw i wedi dysgu, ac mae fy mywyd wedi cael ei gyfoethogi tu hwnt! Am y tro cyntaf dw i’n siarad iaith fy ngwlad; a dw i’n deall o’r diwedd y dywediad:

“Cenedl heb iaith yw cenedl heb galon.”

Mae fy nhaith ar y gweill!

Flag_of_Wales_2.svg

 

8 responses to “yn Gymraeg

  1. Is it because I’m nosey that I turned to google to translate this post? I hope it won’t be seen in that way, because google did a pretty good job of translating it and a beautiful post it is! I am filled with admiration for what you’ve achieved. 🙂

    • Goodness! It never occurred to me that Google Translate could cope with that amount of text!
      I really only posted this because a few of my followers (people I used to work with) are first-language Welsh speakers and as I’ve only been learning since I retired I wanted to connect with them in a way I’d never done before.

      The title we were given to write about, Darganfod, means ‘to discover’ – and so I thought it was appropriate to write about my discovery of the language and culture. As it was the open prose class I also wanted it to sound good so tried to include alliteration and rhythmic patterns.
      It’s spurred me on, so I’m going to try to write more in Welsh – I’m sorry if it’s frustrating!

  2. Hyfryd i ddarllen dy waith Mrs B. Does dim angen i gario ymlaen gyda dosbarthiadau erbyn hyn. Rwyt ti wedi croesi’r bont. Croeso i’r byd Cymraeg rhugl! Edrychaf ymlaen at weld dy ddarn nesaf.

    • O, diolch. Dw i wedi bod yn trefnu fy nodiadau – bydda i’n gweithio yn galed dros y haf!

Leave a comment

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.